Wedi'i lleoli yng nghanol parti gwaith yn y flwyddyn newydd, daw'r gomedi dywyll hon yn gynyddol swreal wrth i undonedd di-baid bywyd swyddfa chwalu'n 'hunllef bac-man-aidd'.
Mae dau berson yn mynd i'r afael â phwysau ac amser yn y ddeuawd deimladwy a chynnes hon sy'n plethu ynghyd dyluniad, cerfluniad, dawns a sain mewn cydweithrediad unigryw.
Wedi'i lleoli yng nghanol parti gwaith yn y flwyddyn newydd, daw'r gomedi dywyll hon yn gynyddol swreal wrth i undonedd di-baid bywyd swyddfa chwalu'n 'hunllef bac-man-aidd'.
Mae dau berson yn mynd i'r afael â phwysau ac amser yn y ddeuawd deimladwy a chynnes hon sy'n plethu ynghyd dyluniad, cerfluniad, dawns a sain mewn cydweithrediad unigryw.
Mae’n Noswyl Nadolig ac mae pobl y pentref yn swatio’n gynnes yn eu cartrefi. Does neb yn sylwi ar y carw bach unig tu allan yn yr oerfel..
A co-production from Theatr Genedlaethol Cymru and National Dance Company Wales.
KNCDC X Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru Y Byd Dawns sydd uwchlaw genre a ffurf, ac yn arwain at berthynas y tu hwnt i’r ffiniau Wales Connection, cynhyrchiad bil dwbl newydd gan Kim Boram ac Anthony Matsena
Mae’r profiad swynol hwn i’r teulu cyfan yn cyfuno holl hwyl y ffair gyda champau acrobatig a dawns er mwyn archwilio ystyr bywyd, tarddiad ffilm a’n hatyniad at hud a lledrith.
Bydd y gwaith newydd hwn yn wledd gorfforol, weledol a sonig diflino, gan bwysleisio brwdfrydedd SAY dros greu symudiad i gerddoriaeth sy’n gwneud i ystafell gyfan ysu i godi a dawnsio.
Mae waltz atgofus yn chwarae yn y pellter. Allan o’r lludw daw cwlwm o greaduriaid gloyw i fyw mewn byd newydd. Yn y dryswch a’r cynnwrf eu hunig obaith yw parhau’n unedig.
Os wnaethoch chi fwynhau byd coreograffig trydanol Tundra yn 2017, mae hwn yn gyfle arall i brofi gwaith gan Marcos Morau, y coreograffydd arloesol o Sbaen.
Mae gweithiwr swyddfa, myfyriwr a hen ddyn unig, sydd wedi diflasu ac sy'n anfodlon â'r byd heddiw, yn dod o hyd i'r cryfder sydd y tu mewn iddynt. Dawns gain, fywiog ac emosiynol. Ceir cerddoriaeth newydd gan y cyfansoddwr Eric Martin Kamosi.
Roedden nhw’n barod am barti, ond doedd neb arall.
Mae dau ffrind yn ceisio difyrru eu hunain wrth iddynt aros i westai eu parti gyrraedd.
Disgwyliwch weld dawnsio gwefreiddiol yn agos, yn y gwaith dawns tameidiog hwn gan Matthew Robinson.
'Moving is everywhere, forever' gan Faye Tan. Cerdd foddhaus i’r grefft o ddawnsio; gwahoddiad i gael eich denu’n reddfol i ‘grooving’, wrth wrando ar drac y ddeuawd electronig Cymreig, Larch.
Mae Rygbi: Yma / Here yn codi calon: llawn gobaith, gogoniant a chyfeillgarwch. Mae’n dathlu’r balchder a’r angerdd mae’r chwaraewyr a’r cefnogwyr rygbi yn ei brofi gyda’i gilydd.
Mae Dream gan y dewinChristopher Bruce CBE yn ddarn dawns calonogol, swynol a hiraethus wedi’i ysbrydoli gan ddyddiau chwaraeon yn yr ysgol gynt a phartïon stryd Jiwbilî.
Rygbi: Annwyl / Dear gan Fearghus Ó Conchúir yn dathlu rygbi yng Nghymru ac yn amlygu gobeithion, bri ac angerdd tynnu at ein gilydd ar y cae ac oddi arno. Crëwyd Rygbi gyda mewnbwn gan gefnogwyr a chwaraewyr rygbi ar draws Cymru fel bod y ddawns yn sicr yn adleisio'r gamp.
Wedi’i hysbrydoli gan gerddoriaeth glapio’r cyfansoddwr Steve Reich, mae ‘Why Are People Clapping?’ yn defnyddio rhythm ac offerynnau taro fel sylfaen.
Mae Codi yn codi o’r lludw i’n hysbrydoli ni yn 2022 gyda stori bwerus, llawn egni, am gryfder cymunedau’n dod ynghyd i fynd i’r afael â chaledi bywyd yn ystod cyfnodau heriol. Wedi'i adeiladu ar sylfeini straeon glofaol Cymru a adroddir drwy ddawns, cân, barddoniaeth a theatr, mae'r gynulleidfa wedi'i lapio mewn blanced o dywyllwch cyn cael ei harwain tuag at oleuni o obaith a dathlu.
MaeRygbi: Annwyl i Mi / Dear to Me yn berfformiad dawns awyr agored byr sy'n dathlu rygbi yng Nghymru a gobeithion, gogoniant ac angerdd dod at ein gilydd ar y cae ac oddi arno.
Mae Afterimage yn daith o luniau gwib; o ymddangos a diflannu. Defnyddir drychau ar y llwyfan i greu profiad theatraidd unigryw lle mae’r gorffennol a’r presennol yn gwrthdaro mewn dawns farddonol a chreadigol ei natur.
Mae rygbi yn gêm sy'n cysylltu gwahanol gymunedau ar draws y wlad ac mewn arena ryngwladol lle mae cyrff Cymreig yn perfformio gyda grym, angerdd a sgil.
Yn y darn synhwyrus a hardd yma am gorff a llais, gwelwn ddawns ac opera’n uno i greu portread gonest o’r boen a thanbeidrwydd rhwng dau gariad caiff eu rhwygo ar wahân i fydoedd gwahanol.
Wedi ei berfformio gan Sinffonieta Llundain mae sgôr disglair a newidiol Dusapin, wedi ei blethu â synau hiraethlon yr harpsicord ac Arabic Oud, yn creu byd tragwyddol sy’n galluogi symudiadau’r dawnswyr a chantorion i fynegi’r stori fyd-eang o golled a chwant.
Cewch olwg ar fyd defodau, dirywiad a gormodedd wedi’i ysbrydoli gan ddarluniau crefyddol eiconig. Daw cymeriadau rhyfedd ynghyd, gan ddod â’u hamgylchedd yn fyw drwy goreograffi ysgogol a llawn cymeriad.
Mae gwylio Bernadette gan goreograffydd GDCC, Caroline Finn, fel gwylio rhannau o Great British Bake Off nad yw’n cael eu dangos ar y teledu, y ddau yn ddoniol a hynod drasig. Mae’r darn hwn o ddawns gomedïaidd yn flêr iawn, yn gorfforol ac yn emosiynol: blawd a theimladau wedi’u gwasgaru ym mhob man.
Mae’r darn bywiog, llawn egni hwn yn rhoi cipolwg ar ddwysedd elfennau natur yn ystod storm, wedi’i osod yn erbyn y pŵer a gynhyrchir gan gyngerdd cerddoriaeth roc amgen.
Mae They Seek to Find the Happiness They Seem yn archwilio’r gwahanu a’r datgysylltu all ddigwydd mewn perthynas. Mae’n defnyddio darnau wedi’u had-drefnu o ddelweddau o ddiwylliant poblogaidd sy’n cysylltu gyda ni gyd ar lefel isymwybodol.
Mae Omertà yn ymwneud â rôl merched yng nghymdeithas Maffia’r Eidal, ac, yn hanesyddol, sut yr oedd eu bywydau, eu profiad a’u straeon yn cael eu cadw’n gudd yn aml.
Mae Tuplet yn tour de force 18 munud o hyd sy’n gyflym ac yn llawn curiadau ar gyfer chwe dawnsiwr.
Gan ddefnyddio sgôr a grëwyd mewn cydweithrediad ag ysgogiadau rhythmig y dawnswyr eu hunain a defnyddio eu cyrff unigol fel offerynnau taro, mae’r cyfansoddiad wedi’i integreiddio gyda cherddoriaeth electronig a gyfansoddwyd gan Mikael Karlsson.
Mae Tundra yn dirwedd hesb lle mae creadigrwydd modern iawn yn dod i fywyd ac yn rhwygo tudalennau o lyfrau hanes am ddawnsio gwerin, USSR a chwyldro Rwsia.
Mae arddull beiddgar Marcos Morau yn cael ei ysbrydoli gan gelf a sinema. Mae Tundra’n cymryd hen syniadau ac yn defnyddio dawns gyfoes i roi ystyr newydd iddynt.
Mae Caroline Finn yn ein harwain ar daith hiraethus, gan ofyn i ni edrych i mewn i’r Green House. Ar set deledu od, mae'r cymeriadau’n canfod y ffin denau rhwng ffantasi a realiti.
Mae Folk yn cynnwys ymadroddion comig tywyll Finn am fywyd a phobl gan ddefnyddio ei harddull coreograffi gwahanol a diddorol iawn. Gan archwilio themâu dynameg gymdeithasol, daw golygfeydd a chymeriadau cyfarwydd a swreal yn fyw i dirwedd gerddorol eclectig a chyfareddol.