Matthew Robinson
SEPTEMBER
Gwaith newydd gan Gyfarwyddwr Artistig CDCCymru, Matthew Robinson.
Mae SEPTEMBER yn ymwneud â bod eisiau byw mewn moment am byth, a chyflymder di-baid bywyd yn ein llusgo ymlaen. Mae'n ymwneud â chariad a ffarwelio. Mae’n gerdd gorfforol ac yn rhaeadr o emosiynau.
Mae SEPTEMBER yn gydweithrediad artistig rhwng Matthew Robinson, y cyfarwyddwr cerdd Torben Lars Sylvest, y Dylunydd George Hampton Wale ac artistiaid Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Cewch fynd ymlaen i wylio Sioe Agoriadol SEPTEMBER yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd ddydd Gwener 12 Mai fel rhan o CYNULLIAD, sef noson unigryw wedi’i llywio gan waith y cwmni HEDDIW, a’i gynlluniau ar gyfer yfory.
Coreograffwr: Matthew Robinson
Cerddoriaeth:
Cyfansoddwyd gan Torben Sylvest
Dyluniad sain a’r gwaith cymysgu gan Pär Carlsson
Ar gyfer PÄTO Studios
Dylunio Gwisgoedd: George Hampton Wale
Matthew Robinson
