P.A.R.A.D.E. / TUNDRA

P.A.R.A.D.E. on 24-25 October at Wales Millennium Centre, Cardiff.

P.A.R.A.D.E. 24-25 Hydref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.

P.A.R.A.D.E. Director / Cyfarwyddwr: Marc Rees

Parade: Choreographer / Coreograffwr: Caroline Finn.

TUNDRA: Choreographer / Coreograffwr: Marcos Morau.

Filmed by / Ffilmiwyd gan: The Space

Full Credits / Cydnabyddiaethau Llawn

01. 1917

Parade was an extraordinary event which happened in 1917, during the time of the Russian Revolution. The original 1917 Parade was a Ballet - but a totally radical one which marked the birth of surrealism and modernism, and revolutionised the very idea of what ballet was and who it was for.

It was so controversial at the time and people didn’t know how to handle it.

One hundred years on, history sees Parade as it was intended to be seen – risky, ambitious, rebellious, and truly revolutionary. This was a different kind of ballet and was a vibrant, unpredictable, glorious event for everyone to enjoy.

What we’ve done with P.A.R.A.D.E. here in 2017 is make turn the original version on it’s head and make it a radical and relevant version for now.

Roedd Parade yn ddigwyddiad hynod a ddigwyddodd yn 1917, yn ystod cyfnod chwyldro Rwsia. Bale oedd y Parade gwreiddiol - ond un cwbl radical a oedd yn nodi genedigaeth swrealaeth a moderniaeth, ac a gafodd effaith chwyldroadol ar yr holl syniad ynglŷn â beth yw bale ac ar gyfer pwy y’i bwriedir.

Roedd o mor ddadleuol ar y pryd nad oedd pobl yn gwybod sut i ymdrin ag o.

Gan mlynedd yn ddiweddarach, mae hanes yn gweld Parade yn y modd y bwriadwyd iddo gael ei weld - mentrus, uchelgeisiol, gwrthryfelgar ac yn wirioneddol chwyldroadol. Math gwahanol o fale oedd hwn ac roedd yn ddigwyddiad egnïol, anrhagweladwy a bendigedig y gallai pawb ei fwynhau.

Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud gyda P.A.R.A.D.E. yn 2017 yw troi’r fersiwn wreiddiol wyneb i waered a’i gwneud yn fersiwn radical a pherthnasol i’n cyfnod ni.

02. INSPIRATION
YSBRYDOLIAETH

placeholder image

2017 marks the centenary of the Russian Revolution. Arts organisations across Wales are enjoying a season of performances and events in the first collaboration of its kind, under the banner R17, which capture the social and cultural explosion of the era, and Wales’ historic connections with the Russia of the time.

Mae 2017 yn nodi canmlwyddiant Chwyldro Rwsia. Mae sefydliadau celfyddydol ledled Cymru’n mwynhau tymor o berfformiadau a digwyddiadau, dan faner R17sy’n ganlyniad i gydweithio nas gwelwyd o’r blaen, ac sy’n cyfleu ffrwydrad cymdeithasol a diwylliannol yr oes, ynghyd â chysylltiadau hanesyddol Cymru gyda Rwsia’r cyfnod hwnnw.

03. COLLABORATION
CYDWEITHIO

placeholder image

Parade was a cultural revolution. It was the first time the word ‘surrealism’ was used to describe art and was created by a pioneering group of world-famous artists – composed by Erik Satie and written by Jean Cocteau for the Ballets Russes, with set and costume designs by Pablo Picasso and choreographed by Léonide Massine.

Roedd Parade yn chwyldro diwylliannol. Dyma’r tro cyntaf i’r gair ‘swrealaeth’ gael ei ddefnyddio i ddisgrifio celfyddyd a chafodd ei greu gan grŵp arloesol o artistiaid byd enwog – wedi ei gyfansoddi gan Erik Satie a’i ysgrifennu gan Jean Cocteau ar gyfer y Ballets Russes, gyda Pablo Picasso yn dylunio’r set a’r gwisgoedd a Léonide Massine. yn gyfrifol am y coreograffi.

05. SURREALISM
SWREALAETH

placeholder image

Ballet had existed for almost 400 years, and was seen as the stuffy pastime of the upper classes. Parade threw every tradition out of the window; the setting was a fairground and the ordinary streets of Paris, and the characters included clowns, acrobats, fire eaters, and carnival acts to attract an audience; the orchestra’s instruments included a typewriter, a gun, a siren, milk bottles and a foghorn, and some of the costumes were made of cardboard.

Roedd bale wedi bod mewn bodolaeth am bron i 400 mlynedd, ac fe’i hystyriwyd fel difyrrwch sych ar gyfer y dosbarthiadau uwch. Sgubodd Parade y traddodiad hwnnw o’r neilltu; ffair a strydoedd cyffredin Paris oedd y lleoliad, ac roedd y cymeriadau’n cynnwys clowniau, acrobatiaid, bytwyr tân a pherfformwyr carnifal er mwyn denu cynulleidfa; roedd offerynnau’r gerddorfa’n cynnwys teipiadur, gwn, seiren, poteli llaeth a chorn niwl, ac roedd rhai o’r gwisgoedd wedi eu gwneud o gardfwrdd.

06. WHY WALES?
PAM CYMRU?

placeholder image

There is a strong historic resonance between the revolution and the radical traditions of the South Wales Valleys. Immediate links were forged with the emerging Soviet Union: letters sent from Lenin himself to Valleys miners and the foundations of the first UK Communist Party established in the Valleys. Maerdy in the heart of the valleys was renamed “Little Moscow”, the red flag flew at pitheads, and the area’s socialist sympathies produced several important Communist trade unionists.

Mae cysylltiad hanesyddol cryf rhwng y chwyldro a thraddodiadau radical Cymoedd De Cymru. Ffurfiwyd cysylltiadau’n syth â’r Undeb Sofietaidd oedd yn datblygu: anfonwyd llythyrau gan Lenin ei hun at lowyr yn y Cymoedd a sefydlwyd sylfeini Plaid Gomiwnyddol gyntaf y DU yn y Cymoedd. Ailenwyd Maerdy yng nghanol y cymoedd yn “Little Moscow” ac roedd y faner goch yn hedfan ar frig y pyllau glo, a chynhyrchodd meddylfryd sosialaidd yr ardal sawl aelod undeb llafur Comiwnyddol.

07. INFLUENCE
YSBRYDOLI

placeholder image

Parade in 1917 and it’s introduction of ‘surrealism’ has influenced many famous films and tv series. The current P.A.R.A.D.E. of 2017 also celebrates these different elements and places it at the heart of Cardiff Bay - the capital of Wales.

Mae Parade yn 1917 a’r elfen swrrealaidd a gyflwynwyd ganddo wedi dylanwadu ar nifer o ffilmiau a chyfresi teledu enwog.

Mae P.A.R.A.D.E. presennol 2017 hefyd yn dathlu’r gwahanol elfennau hyn ac yn ei leoli yng nghanol Bae Caerdydd – prif ddinas Cymru.

08. SPEECH
ARAITH

placeholder image

“Why commemorate, well there’s a great deal to learn from history. Workers we are no strangers to revolutions here in Wales. 100 years ago, Coal was king and here in this very spot was a bustling port exporting 10 million tonnes of coal a year. We were small, but we were mighty! Wales was the world’s first industrial nation; Wales was the coal metropolis of the world!

“I have a vision, a vision for all. We in Wales, we have the ability, we have the technology, we can build a new world. Let me introduce you to your future. Embrace the new dawn, embrace the robot revolution.”

- The Politician, P.A.R.A.D.E. 2017

“Pam cofnodi, wel rydym yn dysgu llawer gan hanes. Fel gweithwyr nid yw chwyldroadau’n ddieithr i ni yma yng Nghymru. 100 mlynedd yn ôl, Glo oedd y brenin ac yn yr union fan yma roedd porthladd prysur a oedd yn allforio 10 miliwn tunnell o lo'r flwyddyn. Roeddem yn fychan, ond roeddem yn nerthol! Cymru oedd y genedl ddiwydiannol gyntaf yn y byd; Cymru oedd metropolis lo y byd!

“Mae gen i weledigaeth, gweledigaeth i bawb. Mae gennym ni yng Nghymru'r gallu, mae gennym ni’r dechnoleg, gallwn adeiladu byd newydd. Gadewch i mi eich cyflwyno i’r dyfodol. Cofleidiwch y wawr newydd, cofleidiwch chwyldro’r robotiaid.”

Y Gwleidydd, P.A.R.A.D.E. 2017

09. INTERVIEW
CYFWRLIADAU

Interview with Caroline Finn on P.A.R.A.D.E.

Cyfweliad gyda Caroline Finn am P.A.R.A.D.E.

11. BEHIND THE SCENES
TU OL I'R LLENNI

Behind the scenes with dancers and BBC National Orchestra of Wales.

Tu ôl i’r llenni gyda’r dawnswyr a Cherddorfa Genedlaethol Cymru BBC.

Get to know the Parade community cast.

Dewch i adnabod cast cymunedol Parade.