dancer in stag mask jumping high

Gyfarwyddwr Gweithredol (Prif Weithredwr ar y Cyd)

Deadline Date
13/08/2025 - 12:00

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn awyddus i benodi Cyfarwyddwr Gweithredol (a Chyd Brif Weithredwr) sy’n gallu cynnig ysbrydoliaeth a gweledigaeth i’n harwain ymlaen i’r bennod nesaf.

Pecyn Swydd

Cynyrchiadau

Amdanom ni

Adroddiadau blynyddol

Deadline Date
13/08/2025 - 12:00

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn awyddus i benodi Cyfarwyddwr Gweithredol (a Chyd Brif Weithredwr) sy’n gallu cynnig ysbrydoliaeth a gweledigaeth i’n harwain ymlaen i’r bennod nesaf.

Mae’r rôl barhaol gyffrous hon yn galw am unigolyn deinamig sydd â sgiliau arweinyddiaeth cryf a chymhellol i gefnogi a rheoli timau, ynghyd â phrofiad llwyddiannus o eiriolaeth busnes, cynllunio a goruchwylio ariannol, AD, llywodraethu, cynhyrchu a mynd ar daith, codi arian, a chyfathrebu.

Byddwch yn gallu cynnig meddylfryd ‘darlun mawr’, angerdd dros greadigrwydd a chynhwysiant, a’r arbenigedd mewn arweinyddiaeth i allu helpu i lywio sefydliad beiddgar sy’n barod ar gyfer y dyfodol.

Mae mwy i’r bartneriaeth hon na rhedeg cwmni yn unig. Mae hefyd yn cynnwys cyd-awduro yr hyn y gall cwmni dawns cenedlaethol fod, a’r hyn y dylai fod, nawr ac yn y dyfodol.

Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r cryfder sy’n dod gydag amrywiaeth. Rydym yn gweithio’n galed i hyrwyddo cydraddoldeb a herio gwahaniaethu. Oherwydd ein bod am adlewyrchu'r gymdeithas rydym yn byw a gweithio ynddi, rydym yn croesawu'n arbennig, geisiadau gan bobl f/Fyddar, pobl anabl a rhai o’r Mwyafrif Byd-eang.

Sgroliwch i lawr neu cliciwch yma i ddarllen y pecyn recriwtio cyn cyflwyno cais – Mae’r pecyn yn rhoi ychydig o gefndir ar CDCCymru ichi, yn ogystal ag amlinellu’r swydd.

Mae’r pecyn ar gael yn Saesneg yma  ac mae fersiwn addas i’w argraffu ar gael yn ei lawrlwythiadau. Os oes angen y pecyn arnoch mewn unrhyw fformat arall, anfonwch e-bost atom drwy recruitment@ndcwales.co.uk 

a dancer in a sequin jacket holds out a bowler hat towards the camera and grins widely as confetti rains down

Cyfarwyddwr Gweithredol (a Chyd Brif Weithredwr)

Byddwch yn cyd-arwain gyda’n Cyfarwyddwr Artistig, gan lywio strategaeth, gyrru cynaliadwyedd a hyrwyddo dawns ledled Cymru a thu hwnt.

💡 Meddylfryd darlun mawr.
🤝 Arweinydd angerddol.
🎯 Creadigol a chynhwysol.

Yn atebol i: Cadeirydd, Bwrdd Ymddiriedolwyr
Rhai sy’n Adrodd yn Uniongyrchol Iddynt: 5+
Cytundeb: Parhaol, Llawn Amser

Cyflog: £50,000 y flwyddyn
Gwyliau Blynyddol: 28 diwrnod [ynghyd ag 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus]
Pensiwn: Cyfraniad Cyflogwr o 5% gyda 4% o Gyfraniad Gweithiwr
Cyfnod Prawf: 6 mis
Cyfnod Rhybudd: 3 mis
Lleoliad: Tŷ Dawns, Bae Caerdydd

Dyddiad Cau: Dydd Mercher 13 Awst 2025, 12:00 Hanner dydd

dancers looking at sketches

Rhestr wirio ar gyfer gwneud cais

Mae’r pecyn ar gael yn Saesneg yma  ac mae fersiwn addas i’w argraffu ar gael yn ei lawrlwythiadau. Os oes angen y pecyn arnoch mewn unrhyw fformat arall, anfonwch e-bost atom drwy recruitment@ndcwales.co.uk 

  • Darllenwch y pecyn recriwtio

Yna

  • Cysylltwch â’n cadeirydd am sgwrs ragarweiniol os ydych yn dymuno gwneud hynny
  • Ysgrifennwch neu cofnodwch lythyr eglurhaol

Anfonwch y llythyr ynghyd â’ch CV i recruitment@ndcwales.co.uk
a

Pecyn Swydd