CDCCymru yn Cyflwyno Tu Hwnt i'r Gofyn ym Mhenrhys MaeTu Hwnt i’r Gofyn yn dwyn ynghyd cymuned Penrhys â phartneriaid, cydweithredwyr ac unigolion creadigol i ddatblygu model o greu ar y cyd cynaliadwy, gyda chreadigedd wrth ei wraidd. Gorchwyl Tu Hwnt i’r Gofyn yw rhannu offer ac adnoddau gyda chymuned Penrhys (Rhondda Cynon Taf) drwy weithgarwch diwylliannol, yn arbennig gyda phobl ifanc, er mwyn helpu i ddiffinio ei hunaniaeth, cryfhau lleisiau lleol ac ymdrechu i greu dyfodol cadarn ar gyfer y gymuned. Mae’r prosiect hwn yn ceisio cyfrannu at newid y ffordd mae preswylwyr yn byw a mynegi eu hunain drwy brofiadau sydd wedi’u gwreiddio yn eu creadigedd a’u mynegiant eu hunain. CDCCymru yw’r partner hwyluso ar y prosiect hwn sydd wedi esblygu drwy brofiad uniongyrchol a enillwyd yn ystod cyfnod paratoi cychwynnol (2019-20) yna cyfnod o Ymchwil a Datblygu sylweddol (Mehefin 21 - Hyd 22) a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Diffiniodd y cyfnod Ymchwil a Datblygu yr angen, perthnasoedd, grwpiau blaenoriaeth ac agwedd greadigol unigryw sy’n rhan annatod o Symudiad a Bîtbocsio, gyda ffocws penodol ar ymgysylltu â phobl ifanc. Cyflawnwyd hyn drwy ymgysylltiad dwfn â’r gymuned a dull partneriaeth a oedd yn seiliedig ar greu ar y cyd. Bu’r model hwn o gyflwyno yn allweddol i’w ddatblygiad llwyddiannus. Mae’r prosiect, sydd ar yn o bryd yn ei drydydd cyfnod (Tach 22 - Mai 23), yn cael ei arwain gan y gymuned a’i hwyluso gan rwydwaith o bartneriaid sydd ynghlwm a heb fod ynghlwm â’r celfyddydau. Mae CDCCymru wedi ymrwymo i gyflwyno’r prosiect am y tymor hir er mwyn galluogi Penrhys i ddod yn ganolfan i’w fynegiant artistig unigryw ei hun i gyflawni newid. Mae’r cam hwn yn canolbwyntio ar ddatblygiad creadigol pobl ifanc Penrhys, dan arweinyddiaeth artistiaid medrus ac ymrwymedig gan gynnwys y Coreograffydd a Hwyluswr Dawns a Parkour, Sandra Harnisch-Lacey a Kyle Stead - Cynhyrchydd, Actor a Gwneuthurwr Theatr sydd wedi’i leoli yng Nghymoedd y Rhondda. Sandra a Kyle yw’r tîm artistig sydd yn gyfrifol am ein darpariaeth ac ymgysylltiad wythnosol yn y gymuned. Ymysg y partneriaid sy’n rhan o Du Hwnt i’r Gofyn mae: Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (y partner hwyluso), Eglwys Llanfair Penrhys, Ysgol Gynradd Penrhys, Paul Evans, Plant y Cymoedd, Cymdeithas Dai Trivallis, Gwasanaeth Celfyddydau Rhondda Cynon Taf, Tŷ Cerdd, Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, Credydau Amser Tempo. Llun: Jon Pountney Gweithgareddau a sut all pobl gymryd rhan ac archebu lle: Mae y Tu Hwnt i’r Gofyn wedi’i leoli ym Mhenrhys. Rydym yn cynnal gweithgareddau wythnos rhad ac am ddim yn y gymuned ar gyfer pob oed a phrofiad. Gweler manylion am y dosbarthiadau sydd ar gael isod: Babanod a Phlant Bach (0-3 oed) Dydd Mercher 11-12:30pm Eglwys Llanfair, Penrhys Chwarae, canu, crefftau a symud gyda Sandra. Symud yn iach Agored i bob oedolyn Dydd Mercher 1:30-2:30pm Eglwys Llanfair, Penrhys Awr i chi’ch hun i symud, ymestyn ac anadlu gyda Sandra. Academi ar ôl ysgol: Plant 7-11 oed Dydd Mercher 3:15-4:15pm Ysgol Gynradd Penrhys Ymunwch â’n hacademi bîtbocsio a parkour wythnosol. Croeso i unrhyw un sydd eisiau dysgu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau a bod yn greadigol. Caffi gyda’r nos: Plant a phobl ifanc (dros 7 oed) Dydd Mercher 5-7pm Neuadd Eglwys Llanfair Ymunwch â ni wrth i ni gyfuno bîtbocsio a parkour. Byddwch yn dysgu sut i rolio a llamu a beth yw ‘kickdrum’ a ‘high hat’! Croeso i bob gallu. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan neu eisiau trafod y prosiect ymhellach anfonwch neges at Emily, Cynhyrchydd Creadigol y Tu Hwnt i’r Gofyn: emily@ndcwales.co.uk. Galeri