Maisie Gregory Myfyriwr Lleoliad Gwaith Proffesiynol Dechreuodd fy hyfforddiant mewn dawns gyfoes yn 2018 pan ymunais â’r rhaglen Dance4 CAT yn Swydd Nottingham. Wedyn, cefais hyfforddiant yn y Northern School of Contemporary Dance, gan wneud y cwrs tystAU a’r cwrs BA(Anrh), lle cefais y fraint o weithio gyda chymaint o artistiaid a dawnswyr anhygoel fel Ben Duke, Fabio Liberte, Excessive Human Collective, Bakani Pick-Up a Jamaal Burkmar. Rwyf wrth fy modd yn ymuno â CDCCymru fel rhan o gynllun lleoliad proffesiynol NSCD. Edrychaf ymlaen yn fawr at gwrdd â llawer o bobl newydd a pharhau â’r daith hyfryd hon yn y byd dawns.