Isabella Knight Myfyriwr Lleoliad Gwaith Proffesiynol Cefais fy magu yn ne Lloegr, gan ddawnsio mewn lleoedd gwahanol, ond yn bennaf yn academi Fale Danceworks yn Llundain. Yna, cefais glyweliad yn y Northern School of Contemporary Dance, lle es ymlaen i wneud y cwrs TystAU ac yna’r cwrs BA, gan weithio gyda choreograffwyr fel Ben Duke, Amaury Lebrun ac Imogen Reeve. Arweiniodd y llwybr hwn at ganfod CDCCymru, sydd wedi creu cyfle anhygoel yn gwneud cynllun lleoliad proffesiynol gyda nhw. Edrychaf ymlaen yn fawr at ddod yn rhan o’r cwmni hwn a dysgu ynddo.