Cdccymru Ymddiriedolwr Dogfennau i’w lawrlwytho PDF: Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwyr 2025 (cywasgedig) PRINT BLAS: Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwyr 2025 (word) LARGE PRINT, Screen reader friendly Pack (word document) PDF: English recruitment pack (compressed) Ymunwch â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fel Ymddiriedolwr a helpwch i ysbrydoli pobl Cymru a’r byd gyda dawnsio gwych. Pecyn SwyddAdroddiadau blynyddol Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru’n chwilio am grŵp amrywiol o bobl i ymuno â ni, sy’n gallu helpu i ysbrydoli pobl Cymru a’r byd gyda dawnsio gwych. Rydym eisiau canfod dulliau newydd o weithio i gyrraedd pobl newydd a gwahanol - i gyflawni ein cenhadaeth i fynegi syniadau y tu hwnt i eiriau, gan archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i fyw yng Nghymru a’r byd yn yr oes sydd ohoni. Rydym yn chwilio am hyd at 4 o ymddiriedolwyr newydd, gan ganolbwyntio fwyaf ar y rhai hynny sydd â sgiliau a phrofiad yn y celfyddydau perfformio, materion cyfreithiol a llywodraethiant, cyllid, dysg a chyfranogiad, a chodi arian. Bydd pob ymddiriedolwr yn gwasanaethu am hyd at 2 dymor o 3 blynedd yr un. Mae ehangu ymgysylltiad, hyrwyddo arloesedd, dadlau o blaid dawns a meithrin ein gwydnwch wrth wraidd popeth a wneir gan CDCCymru. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yng Nghymru’n cael cyfleoedd cyfartal i gael mynediad i fyd dawns. Rydym yn mynd ati’n arbennig i annog ceisiadau gan bobl nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn y sector dawns, a gan y rheiny sy’n profi gwahaniaethu. Rydym yn ymroddedig i ddiwallu anghenion o ran mynediad; rhowch wybod i ni beth sydd ei angen arnoch. Mae’r swyddi’n ddi-dâl, ond gellir ad-dalu costau. Mae’r pecyn hwn ar gael yma yn Saesneg. Anfonwch e-bost at recruitment@ndcwales.co.uk i ofyn am unrhyw fformat arall. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd, dydd Gwener 27 Mehefin 2025 Pecyn Swydd