
CDCCymru yn Cyflwyno
PARTi gan CDCCymru
Tachwedd 2022
Dawns, drag, teisen, peli disgo a cherddoriaeth fyw
Cymerwch ran yn PARTi gyda'ch cymuned leol a gwirfoddolwch fel dawnsiwr, arbenigwr lleol, tywyswr a mwy yn Y Neuadd Les Ystradgynlais a Theatr y Glowyr, Rhydaman gyda Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Noson wych allan yn llawn dawns wedi’i pherfformio, ei llunio a’i chyd-greu gyda chymunedau Cymru. Mae PARTi yn waith ar y cyd ac yn trawsnewid lleoliadau ar gyfer noson aml-ddimensiwn o ddawns, cerddoriaeth, bwyd a diod i bobl o bob oedran. Mae PARTi yn noson allan i bawb.
Roedd PARTi yn cynnwys tair dawns fer, sef NO-SHOW gan Gyfarwyddwr Artistig CDCCymru, Matthew Robinson, Fan the Flames gan Thomas Carsley (a gyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth Young Dancer y BBC), ac And There Were People, wedi’i greu ar y cyd gan gast lleol o berfformwyr, dawnswyr CDCCymru a'r coreograffydd Emily Robinson. Yna gwahoddwyd y cynulleidfaoedd i ymuno â’r band gwerin Cymreig, Allan yn y Fan, a holl gast PARTi, am Dwmpath traddodiadol.
Yn cyflwyno PARTi oedd brenhines y cabaret yng Nghymru, Connie Orff, a sicrhaodd fod y parti’n parhau.

NO-SHOW
gan Matthew Robinson
Perfformir gan Bianca Mikahil ac Euan Stephen
Yn cael ei pherfformio gan ddawnswyr CDCCymru
Roedden nhw'n barod am y parti, ond lle'r oedd pawb arall? Dau ffrind yn ceisio diddanu eu hunain wrth iddynt aros i'w gwestai gyrraedd y parti. Dylech ddisgwyl olwg agos ar ddawnsio gwefreiddiol.

Fan the Flames
gan Thomas Carsley
Yn cael ei pherfformio gan ddawnswyr CDCCymru
Mae gweithiwr swyddfa, myfyriwr a hen ddyn unig, sydd wedi diflasu ac sy'n anfodlon â'r byd heddiw, yn dod o hyd i'r cryfder sydd y tu mewn iddynt. Dawns gain, fywiog ac emosiynol. Ceir cerddoriaeth newydd gan y cyfansoddwr Eric Martin Kamosi.

And there were people
gan Emily Robinson a Cast
Yn cael ei pherfformio gan gast lleol o Rydaman ac Ystradgynlais, dawnswyr CDCCymru ac sydd wedi ei choreograffu gan Emily Robinson.








